Chweched Senedd - Cyfarfodydd ac Adroddiadau
chevron_rightCymdeithas Seneddol y Gymanwlad
Cymdeithas o Seneddwyr y Gymanwlad yw’r gymdeithas hon. Yr hyn sy’n uno seneddwyr y Gymdeithas yw cymuned o ddiddordebau, parch tuag at reol y gyfraith a hawliau a rhyddid yr unigolyn, a’r ffaith eu bod yn gweithio tuag at y ddelfryd bositif o ddemocratiaeth seneddol, beth bynnag fo’u rhyw, eu hil, eu crefydd a’u diwylliant.
Cenhadaeth y Gymdeithas yw hyrwyddo democratiaeth seneddol drwy wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o lywodraethu democrataidd. Mae’n amcanu i greu cymuned seneddol wybodus a all ddwysáu ymrwymiad y Gymanwlad i ddemocratiaeth ac annog rhagor o gydweithio rhwng ei seneddau a’i deddfwrfeydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar y wefan hon.
Strwythur Cangen Cymru o’r CPA
Mae gan y Senedd gangen weithgar o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (a elwir yn Gangen Cymru o'r CPA).
Bydd Aelodau’r Senedd yn dod yn aelodau o'r Gangen yn awtomatig pan gânt eu penodi.
Cefndir
Cytunodd y Senedd yn unfrydol ar gynnig a lofnodwyd gan bedwar arweinydd y pleidiau, ar 7 Gorffennaf 1999, i wneud cais am gael ein derbyn i fod yn aelod o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Croesawyd Cymru’n ffurfiol fel aelod o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas yn Trinidad ar 19 Medi 1999.
Pwyllgor Gweithredol y Gangen
- Y Llywydd - Elin Jones AS Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Is-lywydd - David Rees AS Y Dirprwy Lywydd
- Cadeirydd - Rhun ap Iorwerth AS
- Sam Rowlands AS
- Delyth Jewell AS
- Rhianon Passmore AS
- Natasha Asghar AS
- Alun Davies AS
Ysgrifenyddiaeth
- Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd - Ysgrifennydd y Gangen
- Al Davies, Ysgrifennydd dros dro