Mae’n ofynnol i’r Senedd, yn ôl y gyfraith, benodi Comisiynwyr y Senedd, sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen i’r Senedd gyflawni ei waith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan y Llywydd, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod o'r Senedd sydd wedi cael eu hethol gan y Senedd.
Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd am benderfyniadau ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau, a bydd pob aelod o'r Comisiwn yn cael ei gynnwys yn llawn yn y broses o wneud penderfyniadau.
Comisiynydd |
Cadeirydd y Pwyllgor: Elin Jones AS Llywydd Plaid Cymru | Grŵp Plaid Cymru Portffolio: Cyfathrebu |
Plaid Ceidwawyr Cymerig | Grŵp Ceidwardwyr Cymreig Portffolio: Datblygu cynaliadwy |
Plaid Llafur Cymru | Grŵp Llafur Cymru Portffolio: Cydraddoldeb |
Plaid Cymru | Grŵp Plaid Cymru Portffolio: Ieithoedd swyddogol |
Llafur Cymru | Grŵp Llafur Cymru Portffolio: Y gyllideb a llywodraethiant (gan gynnwys aelodaeth o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg) |
Cyfarfodydd
Y Comisiwn sy’n gyfrifol am lwyddiant hirdymor y Senedd, ac am helpu i’w gwneud yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar ac yn ddeddfwrfa sy’n cyflawni’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Y Comisiynwyr sy’n gyfrifol am drefniadau llywodraethu’r sefydliad ac maent yn atebol i’r Senedd. Mae cyfrifoldebau’r Comisiynwyr fel y “bwrdd llywodraethu” yn cynnwys gosod nodau strategol y sefydliad, darparu’r arweinyddiaeth i’w rhoi ar waith, goruchwylio’r ffordd y caiff y nodau strategol eu cyflawni a chyflwyno adroddiadau a bod yn atebol i’r Senedd ynglŷn a’u stiwardiaeth.